Collection Title: Dydd

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
3 articles on this page
Y RHYFEL

Y RHYFEL CELWYDDAU'R ALMAEN. Daw adroddiadau calonogol heddyw o faes y rhyfel yn Ffrainc. Mae'r byddin- ae,dd Cynghreiriol yn parhau i enill tir ac i gael goruchafiaeth ar y gelyn. Bu i'r Prydeinwyr feddianu gwarchffosydd yn y Regina. Mae'r adroddiad swyddogol yn gwadu yn bendant adroddiad celwyddog agyboeddwYd gan y gelyn. Cyhoeddwyd Ð Berlin fod yr Ellmyn wedi cael buddugol- la-eili fawr ar y Prydeinwyr ar Taehwedd Sed. Dywedant fod byddinoedd o'r radd ucfeaf a feddai'r ddwy wlad yn cymeryd ftsasi yn yr ymladd. Dywed yr adroddiad swyddogol fod hwn eto yn un o'r cel- wyddau ag y mae'r gelyn yn gorfod ymost wng i'w cyhoeddi yn awr ac yn y man er cadw eu pobl gartref yn dawel. Fel mater o ffaith nid oedd y frwydr y cyfeir- iwyd ati yn ddim ond rhyw xagbaiatoad ar gyfer brwydr fwy. Nid oedd ond ych- ydig adranau o'r fyddin yn- cymeryd rhan ynddi. Bu i'r Prydeinwyr lwyddo i eiiiil y ffosydd blaenaf oddiar y gelyn a sicihau eu hunain mewn safle dda. Nid oedd colledion y Prydeinwyr ond fayckui yn yr ymosodiad. Bu'r Ffrancod mewit ymladdfa ffyrnig a'r gelyn yn y Somme, yr hon a ddadblygodd yu frwydr Jaw yn llaw. Cymerodd y Ffrancod lu as garcharorion ac enillasant beth tir. LL W YD DIA N T RWMANIA. j Mae Rwmania yn parhau i gadw ei ï safle ac i rwystro'r gelyn i oresgyn y wlad. 1 Yn ityliryn y Burzei bu i'r Rwmaniaid wrtli sefyll r Ellmyn a chymeryd 100 o garcharorion ynghyd a gwn mawr. Ar cehr y Danube bu iddynt vrru'r gelyn ar encii a chymerasant feddiant o'r wlad I gan belfeef a phentref o'r enw Hirsovo, | yr hwn a roddwyd ar dan gan y gelyn cyn ymadael oho no. Mae'r Ellmyn wedi I cvhoeddi fftgyrau celwyddog iawn o berth- ynas i"r, nifer a gymerasant yn garcharor- ion o'r Rwmaniaid rhwng Hydref 1 a'r 21 ain. Y mae'r Rwmaniairl yn cyl-ioeddi'r ffigyrau eanlynol, sef y rhai a gymerasant oddiar y gelyn am yr un cyfnod:—Swydd- ogyon 61; milwyr 5,760; gynau mawr 105; j gyxxati bach 6,937; a 551,000 o catridges a 41,663 & shells a 2,200 o bebyll. j „ • — ■ BRWYDRO YN YR AWYR. J ( Daw banes brwydrau mawr rhwng y llongaa awyrol o Ffrainc yn nosbarth yr Avere a'r Somme. Cymerodd 30 o longau awyr y gelyn ran yn yr ymdrecMa. An- ?onw??d y Hon gau gelynol ymaith gyda choRedion trymion. Cymerodd y Ffrancod 'm mevm 70 o flwydrau awyrol mewn un wythnos. -Mae'r gwlaw a'r llaid yn rhwystr mawr i'r ymladd yn y Somme ac y mae eu safle rywbeth yn debyg i'r hyn ydoedd wythnos yn ol. ^1' COLLI AC ENILL GER RWMANIA. Aedoddir am lwyddiant mawr i Rwsia vn y rhanbarth Dobrudja. Maent wedi I eyrhaedd o fewn dwy filltir i Cernavoda, | ac y  ( ac y maent yn dra?hyderus yr enillant y j enwog Cernavoda. Cyfrifwyd mwy na I 200 o gyrff y gelynion ar y tir a gollwyd, a chymerwyd nifer mawr yn garcharorion yn ogystal a defnyddiku a gynau. Maent wedi meddianu tref fawr o'r enw Hirsova, yr hon y bu i'r gelyn ei rhoddf ardan cyn ymadael ohoni. Enillasant hefyd fyn- yddau yr ochr bellaf i'r dref. Mae'r Rws- iaid yn cydnabod eu bod wedi gorfod encil- io o'r gwarchffosydd blaenaf yn nosbarth y Skroboff. Hawlia'r gelyn eu bod wedi cymeryd dros 4,000 o Rwsiaid yn garch- arorion yn y frwydr hon. I Mae'r Serbiaid hefyd wedi bod yn fuddugoliaethus yn Cerna. Y mae y sefyllfaoedd pwysig ger Chuka Range yn awr yn meddiant, y Serbiaid. Yr oedd colledion yr Ellmyn yn fawr iawn. Cymer- wyd 1,600 ohonynt yn garcharorion a meddianodd y Serbiaid yr holl fagnelau perthynol i'r gelyn ar y Chuka. Cafodd y Bwlgariaid adgyfnerthion pan oedd y frwydr ar fin darfod. Mae ymladd caled yn myned ymlaen yn Rwsia, ond nid oes newyddion o bwys o Ffrainc, oddigerth fod yr awyrenwyr Prydeinig a Ffrengig wedi bod yn brysur iawn. Buont yn tanbelenu lleoedd o bwysigrwydd milwrol yng ngwlad y gelyn. NEWYDDION DIWEDDARAF 5,000 0 GARCHARORION. MWY YN DOD I MEWN. Ceir newyddion swyddogol heddyw, yn dweud fod pentref Beaucort-sur-Ancre ) yn hollol yn nwylaw y Prydeiuwyr. Rhifa y carcharorion dros 5,000, ac mae mwy yn dod i mewn. Gwnaeth y Prydeinwyr ymosodiad- au llwyddianus ar Butte de Warlencourt. Cyrhaeddasom bron yr oil o'n hamcanion, a chymerywd tua 80 yn garcharorion. j

I CYNRU AR Y GROESFFORDDI

CYNRU AR Y 'GROESFFORDD. -C_ Awgrymir fod Cymru heddyw ar y groesffordd; a gwir yw. Felly ystyriwn yn ddifrifol; a chofiwn y'n gwylir vn fanwl gan nefoedd ac uffern. Rhifwyd dyddiau enwadaeth. 'Ddaw Cymru ddim yn Wesleyaid i gyd; a diolch am hynny. 'Ddaw hi ddim vn Fethodistiaid ychwaith, nac yn Annibynwyr, nac yn Fedyddwyr- i gyd; oblegid y mae sianel pob enwad yn '[ rhy gul i afon fawr yr Efengyl. Beth am hen Eglwys y Cymry? Gcilw synwyr cvffredin, diwylliant, y celfau cain, cenedlaetholdeb, ie geilw Crist arnom i ail adeiladu Ei deml. Ef yn ein gwlad ar adfeilion yr enwadau Cymreig. Cyst organaeth eglwysig lawer gormod heddyw: nid crefydd, cofier; ydi crefydd ddim yn costio digon, yn enwedig i'r mwyafrif. Ond nid crefydd nac ysbrydolxwydd gyfrifa am barhad amlder capelau mewn ardaloedd teneu eu poblogaeth yn yr oes hon., ond mympwy a rhagfarn mewn llawer engraifft. Mwy, 'ddylai organaeth grefyddol ddim sychu holl ffynnonellau y bvwyd Cymreig. Gwir fod angen am amrywiaeth; ond gelli-r ei gael yn yr Eglwys yn gymdeithasau cryfion i gwrdd A, phob talent a dawn a dysg mewn eglwys ] gref. Ac y mae byd mawr, cyfoethog, hudolus, amryddlawn, tu allan i organ- aeth eglwysig. Cafwyd bellach ddwy genhadaeth o addysg elfenol i blant gwerin Cymru. Lledodd gorwelion meddwl ein pobl. Trwy addysgiant crewyd archwaeth- au newydd. Agorodd byd eang y celfau I a'r gwyddorau eu dorau aur led y pen. I Hudwyd athrylith "Cymru heddyw" gan swynion y bywyd diwylliedig; ac os na wna'r Eglwys law-forwynion o'r celfau, wel, cyll ei chyfleustra a chyll ei lie. Yn hytrach na bod hanner dwsin o weinidog- ion mewn pentref o bymtheg cant o bobl- ogaeth, byddai un, neu ddau fan bellaf, yn l.awn ddigon. Caffer darllenfa a llyfrfa a neuadd, a school of art, a meddyg a nurse; a chadwed y pentref hwnnw genhadwr mewn gwlad baganaidd, os gall. Methwn yn glir a gweled rhesymau digonol tros i'r ddau gorff Methodistaidd aros ddiwrnod arall heb ddechreu cyflafar- eddu i gyfeiiiad undeb. Yn wir, 'wn i ond am un rheswm tros ofni'r canlyniad. Teithiodd y ddau enwad yn eu gweinidog- aeth at eu gilydd mor gyflym yn ddiweddai fel ag i basio y naill y Hall mewn llawer engraifft; a'r perygl yw, per ymunid, yr ai y Methodistiaid i gwyno eu bod yn cael gormod o Galfiniaeth genym ni, ac yna yr ai y Wesleyaid i gwyno, o'r ochr ) arall, eu bod yn cael gormod o Arminiaeth } oddiwrth y Methodistiaid. Ochr ddwyfol yr Efengyl yw pwyslais gweinidogaeth ein pregethwyr ni heddyw, tra y mae ein brodyr y drws nesaf mewn aiddgarwch yn trathu ar ryddid a dyledswydd dyn. Pregethwn mewn capel i'r Methodist- iaid, beth amser yn ol, ar "Elias ar ben Carmel," gan bwysleisio y tan o'r nef fel prawf o'r dwyfol. Yn y seia-t cododd blaenor, a dywedodd fod un gair yn v bennod wedi dal yn neilltuol arno ef: "Ac Elias a gyweiriodd yr allor a ddryll- iasid." Yr oedd gan Elias rywbeth i'w wneud, ebai, cyn cael y tan; ac v mae genym ninau rywbeth i'w wneud eto cyn cael y fendith, gyfeillion, meddai ef gyda difrifwch blaenor Methodist; a. 'doeddwn i'r Armin ddim wedi cyffwrdd a'r pwynt Arminaidd hwnnw. Parch G. Bedlod .Roberts' yn y "Geninen". I

Advertising

rll_ TO DEAF PEOPLE "French Orlene" absolutely cures deafness and noises in H;, head, NO MATTER HOW SEVERE OR LONG-STANDIN-C THE CASE MAY BE. Hundreds of persons whose cases were suppose.) 1" be ii cur? b be incurable have been permanently cured by this new reririxiv This wonderful preparation goes direct to the actual seat of the trouble, and one Box is ample to effectually cure any ord, inary vase. Mrs. Rowe, of Portland Cresent, Lee(Is 'sav' -"The 'Orlene' has after twelve years' suffering." Miss Francis, of Bradford Street, Birmingham, savs: "Ynur new remedy has been the means of curing my mother's deaf- ness after being a sufferer for nearly 26 vears. It is indeed a splendid preparation, and she wishes me to convev to VOII her heartfelt thanks." t Mrs.WUde.of GrcsveporStreet. Betfast,says:Iamdetisht ed I tried the new 'Orlene' for the head-noises ceaserl almost at once, and the hearing has re-turned enabHng me to heir ordmary conversation quite easily." I Mr. John Maynard, of ?pse Street, Glasgow, says: "After spending nearly fifty pounds on various so-called 'cures' it is wonderful to find myself completely cured at such a triflil?g ) cost. The'Orlene'is indeed a splendid remedy." ■' = EVERY SUFFERER SHOULD TRY THIS NEW REMEDY, FOR I THERE IS NOTHINC BETTER AT ANY PRICE. Price 2s. 9d. per box, post free, with full directions. Address:- 'ORLENE,' Co., 10 South View, Watling Stæet. Dartford, Kent, England. í Plesase mention this paper.